CDU
Beth yw Cynghorydd Dysgu Undeb felly? 
Peidiwch â chynhyrfu! – nid oes yn rhaid i chi hyfforddi’ch holl gydweithwyr! Eich rhan fydd trafod eu anghenion, helpu i’w cyfeirio at ffynonellau hyfforddi neu gyllid, ac efallai, gyda chymorth CULT Cymru neu eich undeb, helpu i drefnu hyfforddiant ar eu cyfer. Yn gyfnewid am hynny byddwch yn gallu cael mynediad at bob math o hyfforddiant eich hunan er mwyn datblygu a diweddaru eich sgiliau..
Mae TUC Cymru a’r prosiect CULT Cymru wedi datblygu cwrs hyfforddi CDU yn benodol ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol gyda 22 CDU wedi eu hyfforddi yn 2009.
Felly, beth fyddai’r gofyn i chi ei wneud?
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant CDU, drwy gwrs deuddydd i gychwyn, gyda chwrs undydd i ddilyn;
- Canfod anghenion dysgu gweithwyr llawrydd a chydweithwyr eraill yn eich grŵp dewisol e.e. ar raddfa neu swydd waith neu ardal benodol;
- Rhoi adborth am anghenion dysgu grŵp neu unigolion i’r prosiect (ac i’r undeb lle bo’r undeb wedi gofyn am y fath wybodaeth);
- Cydgysylltu â’r prosiect parthed sut y gellid cyflawni anghenion dysgu’r aelodau;
- Cyfeirio aelodau at ddarpariaeth dysgu sy’n bodoli eisoes;
- Mynychu cyfarfodydd rhwydwaith chwarterol;
- Cydgysylltu a rhoi adborth gwybodaeth drwy eu tîm dysgu undeb unigol, ganghennau neu rwydweithiau (yn ôl yr hyn a gytunwyd â’u hundeb);
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu’r prosiect ac undeb ymhlith aelodau;
- Canfod astudiaethau achos ac erthyglau papur newydd posibl a rhoi adborth i’r prosiect a’r undeb;
- Rheoli eu hamser eu hunan yn effeithlon er mwyn sicrhau nad yw gweithgaredd y CDU yn amharu ar eu gweithgareddau llawrydd;
- Canfod eu anghenion dysgu hwy eu hunain er mwyn sicrhau fod y CDU unigol ar ei ennill o’r profiad.
Beth yw’r manteision i CDUau?
Yn gyffelyb i roliau cynrychiolwyr undeb eraill ni thelir CDUau am ymgymryd â’r gweithgareddau uchod. Fodd bynnag, mae ganddynt yr hawl i lwfans o £50 y dydd am y tri diwrnod hyfforddiant cychwynnol, ynghyd â chostau teithio yno ac yn ôl i’r man hyfforddi. Derbynia CDUau eu costau am alwadau ffôn , teithio ac ati tra byddant ynghylch y rôl ac fe drafodir y rhain a chytunir arnynt ymlaen llaw gyda Rheolydd Prosiect CULT Cymru. Cynigir hefyd fynediad i rai cyrsiau am ddim neu am bris gostyngedig i CDUau.
Mae amryw o fanteision o fod yn CDU…
- Bod yn ymhel yn gynnar â menter gyffrous;
- Hyfforddi i fod yn GDU effeithiol yn y diwydiannau creadigol;
- Cyfleoedd i gynorthwyo aelodau ar draws y diwydiant gyda’u anghenion dysgu ;
- Mynediad i gyrsiau a drefnwyd am ddim neu am bris gostyngedig;
- Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol parhaus;
- Cyfleoedd rhagorol i rwydweithio gyda CDUau eraill ar draws y pum undeb;
- Cyfleoedd i rwydweithio gyda CDUau o sectorau eraill ac undebau eraill;
- Ymestyn gwybodaeth am rwydweithiau a chysylltiadau o fewn y diwydiant a thu hwnt;
- Cyfle i gyfrannu a dylanwadu ar gyfeiriad dysgu oddi mewn i’r diwydiant i’r dyfodol ac o bosibl y tu hwnt iddo.
Beth arall y mae angen i chi ei wybod?
Bydd y penderfyniad terfynol parthed ricriwtio CDUau yn nwylo pob undeb . Rhaid i bob darpar CDU fod yn aelod o undeb.
Bydd angen eich bod yn meddu ar berthynas dda ag aelodau a bod gennych yr hyder i fod yn ysgogol wrth ymwneud ag ystod eang o weithwyr llawrydd a bod yn barod i roi adborth i’ch undeb a’r prosiect.
Yn ddelfrydol, rydych yn gyfathrebydd da, yn gallu datblygu perthynas dda â phobl a bod yn ysgogol wrth sgwrsio â rhai llawrydd ynghylch cyfleoedd hyfforddi.
Dymunwn greu tîm amrywiol o CDUau yn nhermau’r aelodau y byddant yn rhyngweithio â hwy h.y. yn nhermau roliau swyddi y byddant yn ymgymryd â hwy a’r sector y maent yn rhan ohono, wedi eu daenu yn ddaearyddol h.y. Gogledd a Gorllewin yn ogystal â De Cymru ac yn nhelerau oed, rhyw, hil, anabledd ac yn y blaen, er mwyn sicrhau bod yr undeb yn gallu ymestyn allan at ystod eang o aelodau.
Hyfforddi diweddar…...
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn CDU yna e-bostiwch Siân Gale, Rheolydd Prosiect CULT Cymru - sian@bectu.org.uk
Dewch i gyfarfod eich Cynghorwyr Dysgu Undeb
|
Rwyf yn CDU BECTU wedi fy lleoli yng Nghaerdydd.
Rwyf yn wneuthurwr props ac rwyf wedi gweithio ar bob math o brosiectau gan gynnwys Dr Who, Torchwood ac Iron Clad.
Fel gweithiwr llawrydd mewn diwydiant heriol sydd yn fythol newid, rwyf yn awyddus i ddysgu technegau newydd a chynnal y wybodaeth newydd hon a sgiliau newydd gyda chydweithwyr mewn dylinio/celfi.
Mae canfod cyrsiau a hyd yn oed trefnu hyfforddiant arbenigol yma yng Nghymru yn hanfodol i’n gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol felly rwyf yn gweithio gyda CULT Cymru i drefnu cyrsiau perthnasol.
Rwyf hefyd wedi ymgymryd â’r cwrs yn y Sector Dysgu Gydol Oes, Paratoi i Ddysgu gyda TUC Cymru.
jason@cultcymru.org
Tel: 02920235240
|

|
Fi yw eich CDU BECTU yng Ngorllewin Cymru.
Fy rhan i yw cefnogi aelodau yn eich datblygiad proffesiynol, gall hyn fod drwy rwydweithio gydag eraill, trefnu cyrsiau yn eich ardal leol neu drwy eich cyfeirio.. rwyf yn gynhyrchydd a thiwtor profiadol a byddwn wrth fy modd o gael gair oddi wrthoch.
Gallaf drefnu cyrsiau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Rwyf yn foddlon trefnu cyrsiau neu ddigwyddiadau fîn nos, dydd neu benwythnos. Os carai unrhyw aelod gyfarfod â mi wyneb-yn-wyneb naill ai i drafod anghenion personol neu unrhyw syniadau am yr hyn y gallem eu gwneud yn lleol, rydwyf ar gael yng Nghaerfyrddin ar brynhawniau Mercher. Croeso i chi roi fy manylion cyswllt i eraill sydd yn gweithio yn yr ardal.
Cysylltwch â mi os gwelwch yn dda ar y canlynol (gwell gennyf yr e-bost)
michele@cultcymru.org
Symudol: 07971 955730
|

|
Rwyf yn un o’r CDUau BECTU yng Nghymru.
Cefais fy hyfforddi fel artist coluro a gwallt gyda’r BBC a bum yn gweithio i HTV am lawer blwyddyn cyn mynd yn lawrydd. Fi yw Cynghorydd Dysgu cyntaf yr Undeb Crefftau BECTU ac rwyf wedi bod yn gwneud y gwaith ers 2005.
Mae fy rôl fel CDU yn golygu canfod anghenion dysgu pobl sydd yn gweithio mewn coluro a gwallt yng Nghymru drwy gyfarfod cydweithwyr ar leoliadau neu siarad ar y ffôn i drafod beth y byddent yn hoffi ei wneud nesaf. Byddaf wedyn yn trafod hyn CULT Cymru er mwyn canfod sut gallwn gael mynediad i’r hyfforddiant, trafod trefniadaeth (gan amgyffred cynnwys y cwrs,) darparwyr hyfforddiant a chyllido.
Yng nghyrsiau’r gorffenol cynhwyswyd:
- Gwallt gosod, arddodi gwallt a chwythfrwshio;
- Datblygiadau yn y diwydiant, megis Manylder Uwch;
- Cyflwyniad i gyfrifiaduron a’r wê.
Yr hyn sydd wedi bod yn fuddiol o ran y cyrsiau yw nad ydym yn unig wedi dysgu llawer iawn ond ein bod wedi cael llawer o hwyl ar yr un pryd, a’n bod wedi gwerthfawrogi’r amser a gafwyd gyda’n gilydd.
Mae’r buddion i mi yn bersonol yn cynnwys ennill hunan-hyder wrth drafod anghenion dysgu ac rydwyf yn awr wedi gwneud cwrs TUC Cymru a achredir gan y City and Guilds yn dwyn y teitl “Paratoi at Ddysgu yn y Sector Addysg Gydol Oes”. Rydym hefyd wedi sefydlu rhai cyrsiau newydd gyda darparydd dysgu lleol ar dechnegau torri gwallt, steilio a defnyddio lliw ar wallt.
Rwyf yn arbennig o awyddus i helpu newydd-ddyfodiaid nad ydynt wedi cael y cyfle i weithio ochr-yn-ochr â gweithwyr proffesiynol am unrhyw amser arwyddocaol fel rhan o’u hyfforddiant. Rwyf yn teimlo eu bod wedi cael eu taflu mewn i’r sefyllfa dros eu pen a’u clustiau.
Rwyf yn barod iawn i gynghori a chyfeirio pobl coluro a thrin gwallt at y cymorth priodol.
ros@cultcymru.org
|

|
Rwyf yn un o CDUau Equity
Deuais yn CDU oherwydd fy mod yn berson sydd yn awyddus i wneud cymaint o hyfforddi ag sy’n bosibl, gan fanteisio ar bob cyfle i gefnogi a datblygu fy ngyrfa artistig. Meddyliais y byddwn, drwy fod yn CDU, yn darganfod beth sydd ar gael allan yn y byd a fyddai o ddefnydd i mi ac yna i drosglwyddo’r wybodaeth honno ac i ddod o hyd i eraill a fyddai o bosib, â’r un diddordeb â mi mewn hyfforddiant tebyg i’n anghenion i.
Fe’m denwyd gyntaf i fod yn CDU oherwydd fel gweithiwr llawrydd y mae’n anodd dod i wybod ynghylch hyfforddiant sydd yn arbenigol ac yn ddrud.
Fy mhrif nod fel CDU yw darganfod neu hyd yn oed i drefnu hyfforddiant perthnasol fel ei fod yn fforddiadwy.
Fel CDU rwyf yn arbennig o awyddus i gynghori rhai llawrydd eraill sydd yn gweithio yn fy sector sgiliau i.
Fodd bynnag, byddwn yn hapus i siarad â rhai llawrydd o sectorau eraill yn arbennig felly os oes hyfforddiant perthnasol ar gael a fyddai’n rhychwantu meysydd amrywiol yn ein gwaith.
Yn ddiweddar, rwyf wedi gweithio gyda CULT Cymru i drefnu cwrs IRATA -Techneg Cyrraedd Rhaffau Rhyngwladol ar gyfer rigio a gweithio ar uchder. Mynychwyd y cwrs gan dau aelod o Equity a dau aelod o BECTU.
Mae’r bobl sydd yn dangos diddordeb hyd yma yn artistiaid mewn syrcas sydd yn defnyddio’r math hwn o gyfarpar wrth eu gwaith a thechnegwyr llwyfan sydd am ehangu eu gwybodaeth ynghylch ymarferion gweithio diogel.
bridie@cultcymru.org
|

|
Rwyf yn un o’ch CDUau Equity ac wedi fy lleoli yn Y Rhondda.
Deuais yn CDU er mwyn cyfarfod cynrychiolwyr eraill o’r bedair undeb arall sydd yn ymwneud â CULT Cymru a hefyd er mwyn gweld beth oedd ar gael yn nhermau hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ein aelodau.
Rwyf yn actores gydag ychydig bach o brofiad proffesiynol ac mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gall hyfforddiant pellach gynorthwyo i gael gwaith i mi ac i aelodau eraill Equity yng Nghymru.
Fy rhan yn bennaf yw darganfod os ac ymhle y mae bylchau yn ein hyfforddiant , a thrwy CULT Cymru, i geisio llanw’r bylchoedd hynny.
Yn ddiweddar, rhedais fy rhwydwaith cyntaf ar y cyd rhwng CULT Cymru ac Equity yn yr Atrium yng Nghaerdydd, ac yn edrych ymlaen i redeg mwy.
Mae gennyf ddiddordeb mewn sefydlu digwyddiadau rhwydweithio a ddylsai ddarparu cyfle i drafod pa gefnogaeth y mae ei angen arnom. Rhai o’r pethau y mae gan aelodau ddiddordeb ynddynt yw technegau clyweliad, cynhyrchu rîliau arddangos a sgiliau cyflwyno radio. Cadwch lygaid ar agor am ragor o fanylion!
Yn y pen draw, mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gall yr undebau gydweithio er mwyn creu eu gwaith eu hunain. Teimlwch yn rhydd i gysylltu â mi yn y cyfeiriad e-bost a ganlyn.
polly@cultcymru.org
|

|
Rwyf yn un o CDUau Equity yn Ne Cymru.
Cychwynais fy ngyrfa mewn actio yn ôl ym 1994 fel Artist Ategol yn A Mind to Kill a gai ei ffilmio ym Mhorthcawl. Yn ddiweddarach, roeddwn yn llwyddo i sicrhau darnau mewn ffilm, teledu a’r theatr.
Rwyf yn hapus i roi cyngor a chymorth i unrhyw aelod o Equity yn fy ardal.
Os carech drafod eich anghenion hyfforddi chi eich hunan ac yn dymuno cael mwy o wybodaeth ar yr hyfforddiant sydd ar gael a ffynonellau ariannu, byddwch gystal â chysylltu â mi.
david@cultcymru.org
|

|
Rwyf yn un o’r CDUau yn gweithio yng Nghaerdydd.
Rwyf yn ganwr jazz/addysgwr a gweithiaf fel Rheolydd Prosiect ac ymgynghorydd llawrydd yn cynhyrchu sioeau jazz a digwyddiadau diwyllianol ar draws y DU.
Rwyf wedi ymddangos nifer o weithiau ar y teledu a’r radio ac yn 2002 derbyniodd Humie Wobr Amrywiaeth Cymru am y Gamp Orau mewn Celfyddyd Perfformio. I gydnabod fy ngwaith mewn celfyddyd cymunedol a gwaith gwirfoddol, fe’m gwahoddwyd i gyfarfod â’r Frenhines a’r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair yn 10 Downing Street ac yn 2003 fe gyflwynwyd gwobr arbennig iddi gan ei chynghorydd lleol i gydnabod ei chyfraniad i ddatblygu cerddoriaeth yng nghymuned Y Drenewydd (Caerdydd- Butetown).
Penderfynais fod yn CDU oherwydd credaf ei fod yn bwysig fod pobl sy’n gweithio yn y diwydiannau diwylliannol fod yn ymwybodol o dueddiadau newidiadol, yn arbennig yn y modd y mae pobl yn hoffi cael eu diddannu a’u ffurfiau celfyddyd. Y mae’n bwysig i gadw yn ymwybodol o’r newidiadau er mwyn parhau i fod yn berthnasol er mwyn cynnal y gynulleidfa ar gyfer eich celfyddyd chi. Mae datblygiad personol yn bwysig er mwyn dygymod â hyn, yn arbennig sut i farchnata, cyflwyno a chynnal eich hunan yn ariannol.
Y gynulleifa rwyf yn anelu ati yn bennaf yw cantorion ac artistiaid perfformio sydd yn cael anhawster i farchnata eu hunain i gynulleidfa ehangach.
Rwyf yn barod i chi gysylltu â mi drwy e-bost neu ar y ffôn symudol isod. Gallaf hefyd drefnu i gyfarfod â grwpiau o bobl yng Nghaerdydd neu mewn amrywiol rannau o Gymru ble gallaf drefnu cyfarfodydd.
humie@cultcymru.org
Symudol: 07828 978345
|

|
Rwyf yn un o CDUau yr NUJ wedi fy lleoli yn Abertawe.
Fel arfer cyflwynir y broblem o ddod yn newyddiadurwr mewn croesddywediad – yr iâr a’r cyw. Sut ydych yn ennill profiad pan fo angen profiad arnoch i sicrhau swydd? Ychydig o flynyddoedd yn ôl derbyniais dau fyfyriwr ifanc ar brofiad gwaith a rhoddais y swydd a’r arian a ddaethai yn rhinwed hynny iddynt. O’r mentorau y gallwn ei gynnig, gwnaethant gysylltiadau da a sicrhau cytundeb tymor-byr ar eu liwt eu hunain. Dyma pam y deuthym yn Gynghorydd Dysgu Undeb.
Bellach rwyf yn awyddus i ddatblygu fy ngwaith gyda newyddiadurwyr fel CDU NUJ ac hefyd er mwyn gweld sut y gallaf greu cyfleoedd ar gyfer fy nghydweithwyr llawrydd drwy fod yn ymwybodol o hyfforddiant sydd ar gael ynghyd â chyllid sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant.
Rwyf yn fwy na pharod i siarad gydag unrhyw aelodau o’r NUJ yn Abertawe a De-Orllewin Cymru.
mikebuz@cultcymru.org
|

|
Rwyf yn un o CDU yr NUJ yng Nghymru.
Mae fy nghefndir gyrfaol mewn amrywiaeth o swyddi golygyddol ar draws Cymru o fod yn ohebydd cyffredinol i fod yn uwch olygydd cynorthwyol, ysgrifennydd busnes i reolydd cysylltiadau.
Yn fwy diweddar, bum yn gweithio fel hyfforddwr, marchnatwr ac awdur ar fy liwt fy hunan, gyda clïentau yn cynnwys y BBC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Rwyf yn awyddus i roi cyngor a chymorth i unrhyw aelod o’r NUJ sydd yn gweithio mewn unrhyw sector ond fy arbenigedd personol i yw mewn print a Chysylltiadau Cyhoeddus.
Felly cysylltwch â mi os gwelwch yn dda drwy e-bost neu ar y ffôn os carech drafod eich anghenion hyfforddi eich hunan neu i ddarganfod sut y gallwn o bosibl eich cyfeirio at yr hyfforddiant sydd ar gael neu at ffynonellau cyllid.
Rwyf hefyd yn hyfforddwr CULT Cymru, gan greu y pecynnau hyfforddi mewn marchnata ac e-farchnata ac wedi cyflwyno sawl cwrs i weithwyr llawrydd o’r holl undebau sydd yn ymhel â prosiect CULT Cymru.
Fel swyddog cangen Caerdydd a De-Ddwyrain Cymru gallwch hefyd dod i’m cyfarfod yn unrhyw un o gyfarfodydd cangen yr NUJ.
mike@cultcymru.org
07795 325161
|

|
Rwyf yn un o CDU WGGB yn Nghymru.
Mae awduron yn dueddol o weithio ar eu pennau eu hunain, ac yn aml y mae’n anodd iddynt deimlo fel petaent yn aelodau o gymuned. Ymhellach, yn fy mhrofiad i, mae cyfleoedd cyflogaeth a datblygu gyrfa y gallant elwa ohonynt yn aml heb eu hysbysebu yn ddigonol. Yn y lle cyntaf, felly, teimlaf fod fy rhan fel CDU yn golygu darparu i aelodau o Urdd yr Awduron y wybodaeth y mae ei angen arnynt er mwyn iddynt allu gwneud y gorau o’u heffeithioldeb fel gweithwyr llawrydd.
Fy swyddogaeth gyntaf fel CDU y WGGB oedd creu rhestr bostio a oedd yn gweithio o aelodau’r Urdd a oedd yn gweithio yng Nghymru. Llwyddais i wneud hyn gyda chynorthwy swyddfa’r Urdd yn Llundain, ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Cymreig.
I raddau helaeth, bu fy rhan hyd yn hyn yn golygu ceisio adeiladu ymwybyddiaeth am CULT Cymru drwy e-bost. Gwelaf ef hefyd yn gyfrifoldeb arnaf i weithredu fel man cyswllt y gall aelodau ei ddefnyddio i fynegi eu anghenion hyfforddi.
Mae’ r hyfforddiant CDU wedi cynorthwyo i’m trwytho gyda hyder i allu ymdopi ag ymholiadau ynghylch hyfforddi oddi wrth yr aelodau, boed hynny yn golygu yn syml eu cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth mwy awdurdodedig, neu drafod y dewisiadau sydd ar gael iddynt wyneb yn wyneb.
othniel@cultcymru.org
|

Eich Cynhorwyr Dysgu Undeb
Anna Fôn - BECTU
Gawain Nash - BECTU
Jan Marshall - BECTU
Jason Hicks - BECTU
John Hunter - BECTU
Medwen Roberts - BECTU
Michelle Ryan - BECTU
Ros Wilkins - BECTU
Sian Gale - BECTU
Bridie Doyle - Equity
Polly - Equity
Dave Wong - Equity
Humie Webb - Equity
Wren Ball - Equity
Jackie Clifton - Musicians Union
Mark Forde - Musicians Union
Ross James - Musicians Union
Michael Burrows - NUJ
Mike Smith - NUJ
Angela Graham - Writers Guild of Great Britain
Othniel Smith - Writers Guild of Great Britain
Testimonials
"Diolch i chi am y diwrnod ar y 16eg. Dysgais lawer oddi wrthoch chi a Jeremy fel y’ch gilydd, ac rwyf yn araf yn defnyddio’r cyfan. Rwyf wedi diweddaru fy nwy wefan, y ddwy wedi eu cyplysu ar waelod y dudalen hon. Gobeithio y byddwch yn gallu gweld y gwahaniaeth! Ond nid ydwyf eto yn hollol wedi deall y safle ‘Twitter’ eto, ond drwy Facebook Ads rwyf yn dechrau cael rhai canlyniadau ar ffurf ymholiadau am brisiau am editmyvideos. Rwyf yn cadw manylion cyswllt clïentau potensial hefyd."
Peter Thornton, www.editmyvideos.co.uk