Prosiect rhwng y pum undeb yn y diwydiannau creadigol a diwyllianol yw CULT Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Undebau Llafur

www.bectu.org.uk

BECTU (The Broadcasting, Entertainment, Cinematograph and Theatre Union) yw’r undeb annibynnol i’r rhai hynny sydd yn gweithio mewn darlledu, ffilm, diddannu, hamdden, cyfryngau rhyngweithiol a meysydd cyffelyb. Mae’r buddion yn cynnwys cefnogaeth mewn gwaith, rhestriad am ddim yn Crewfinder Cymru (cyfeirlyfr llawrydd BECTU),yswiriant atebolrwydd i’r cyhoedd a noddir yn hael, a chymorth datblygiad proffesiynol.

1 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9SD

029 2066 6557
ddonovan@bectu.org.uk 

www.equity.org.uk

Equity yw’r undeb llafur sydd yn cynrychioli perfformwyr proffesiynol a gweithwyr creadigol eraill ar draws spectrwm y diwydiannau diddanu,creu a diwylliannol. Mae aelodaeth yn cynnwys rhestriad am ddim ym masdata talent creadigol Oriel (www.equityoriel.co.uk) a chefnogaeth ar gyfer hyfforddiant.

1 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9SD

029 2039 7971
info@cardiff-equity.org.uk

www.musiciansunion.org.uk

Mudiad yw Undeb y Cerddorion sydd yn cynrychioli dros ddeuddeg mil ar hugain o gerddorion sydd yn gweithio ym mhob sector o’r busnes cerdd. Ynghyd â seminarau ac achlysuron rhwydweithio, mae’r MU yn cynnig ystod o wasanaethau i gerddorion o bob oed a genre.

199 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 1AJ

029 2045 6585
cardiff@themu.org.uk 

www.nujtraining.org.uk

Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn gweithio i wella tâl ac amodau gwaith newyddiadurwyr yn ogystal ac amddiffyn ac hyrwyddo rhyddid cyfryngau, proffesiynoldeb a safonau moesol. Mae’r NUJ yn rhedeg ystod eang o gyrsiau datblygu o ysgifennu nodwedd i ddylunio gwe.

Headland House
308-312 Gray's Inn Road
Llundain
WC1X 8DP

020 7843 3717 / 3730
info@nuj.org.uk 

www.writersguild.org.uk

Mae The Writers' Guild of Great Britain (Urdd Awduron Prydain Fawr) yn cefnogi awduron ar gyfer teledu, ffilm, radio, theatr, llyfrau a gemau cyfrifiadur. Gall aelodau gael mynediad yn rhad ac am ddim i gyngor cyfreithiol, yn ogystal â bwletinau gwybodaeth wythnosol, cylchgrawn chwarterol a digwyddiadau.

40 Rosebery Avenue
Lluhdain
EC1R 4RX

020 7833 0777 erik@writersguild.org.uk

www.tuc.org.uk//tuc/regions_info_wales.cfm

Mae TUC Cymru yn cynrychioli 50 undeb sydd yn cynrychioli hanner miliwn o aelodau. Mae TUC Cymru yn ymgyrchu dros amodau teg mewn gwaith, gartref a thramor. Mae Addysg TUC Cymru yn cynnig hyfforddiant achrededig o safon uchel drwy rwydwaith o golegau lleol sydd am ddim i aelodau undeb.

TUC Cymru
1 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9SD

029 2034 7010
wtuc@tuc.org.uk 

www.gftu.org.uk

Mae Ffederasiwn Cyffredinol Undebau Llafur (General Federation of Trade Unions) (GFTU) yn gweinyddu Ymddiriedolaeth Addysgol y GFTU fel y bo’n cynnig rhaglen lawn o gyrsiau hyfforddi i undebau llafur. Mae’r cyrsiau hyn fel rheol am ddim i aelodau undebau cyswllt ac fe’u cynhelir mewn mannau gwahanol ar hyd y DU.

4th Floor
Headland House
308 – 312 Grays Inn Road
Llundain
WC1X 8DP

020 7843 6386
gftuhq@gftu.org.uk

Cwmnïau Cyfryngau

Mae CULT Cymru yn cydweithio gyda nifer o gwmnïau Cyfryngau Creadigol yng Nghymru.

www.skillset.org/uk/cymru

Skillset Cymru yw corff y diwydiant sydd yn cefnogi sgiliau ac hyfforddiant i bobl a busnesau er mwyn sicrhau bod diwydiannau cyfryngau creadigol yn cadw eu lle blaenllaw yn y byd. Archwiliwch yr adran safonau ar y wefan am wybodaeth gynhwysfawr ar wahanol rannau swyddi. Mae cyllid o 80% ar gael ar gyfer rhai cyrsiau hyfforddi.

33–35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd
CF10 5LH

029 2045 2834
cymru@skillset.org

www.screenacademywales.org

Canolfan ar gyfer hyfforddi dwys y diwydiant ffilm yw Academi Sgrîn Cymru Skillset. Mae ei gwefan yn darparu manylion am ddosbarthiadau meistri a bwrsariaethau yn ogystal â phostio e-bwletinau rheolaidd i danysgrifwyr.

Suite 2
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5LH


029 2048 0141
info@screenacademywales.org

 

www.skillset.org/uk/cymru

Mae Academi Cyfryngau Skillset Cymru yn cynnig cyrsiau B.A. a Meistri mewn agweddau o Animeiddio, Cyfryngau Digidol, Newyddiaduraeth Darlledu a Chynhyrchu Cyfryngau.

 

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Academi Cyfryngau Skillset Cymru yn…
www.skillset.org/uk/cymru

 

 

www.screenacademywales.org

Cydlynnir a gwesteir Skillset Screen Academy Plus gan y Bartneriaeth Academi Sgrin a Chyfryngau. Y mae yn cynnig sgiliau busnes a chrefft uwch i weithwyr yn y diwydiant a gwasanaeth gyrfaoedd diwydiant-ganoledig.

Mae CULT Cymru yn gweithio gyda’r Academi i ddarparu hyfforddiant i weithwyr llawrydd yn ystod 2009/10.

 

www.cyfle.co.uk

Cwmni hyfforddi ar gyfer y diwydiant Teledu, Ffilm a’r Cyfryngau Rhyngweithiol yw Cyfle. Mae’n cynnig cefnogaeth hyfforddiant ymarferol i weithwyr proffesiynol drwy ystod o gyrsiau byr a chymorth ariannol ymarferol. Gall pobl llawrydd geisio am gyllid o 80% tuag at gost rhai cyrsiau.

Galeri 13
Doc Fictoria
Caernarfon
Gwynedd, LL55 1SQ
01286 668003
caernarfon@cyfle.co.uk

33-35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd, CF10 5LH
029 2046 5533
caerdydd@cyfle.co.uk

www.filmagencywales.com

Mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn cefnogi talent (cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac awduron) newydd a phrofiadol fel ei gilydd yn y diwydiant gwneud ffilmiau drwy gynnig cyllid datblygu, cyngor a gwybodaeth.

Suite 7
33-35 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd
CF10 5LH

029 2046 7480
enquiries@filmagencywales.com

  www.walesscreencommission.co.uk

Comisiwn Sgrin Cymru yw’r gwasanaeth darganfod lleoliadau ar gyfer Cymru gan gynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar leoliadau, cyfleusterau, criw a gwasanaethau lleol. Mae cofrestru arlein yn rhad ac am ddim.

33-35 Stryd Gorllewin Bute
Bae Caerdydd
CF10 5LH

0800 8 49 88 48
enquiry@walesscreencommission.co.uk

  www.ydg.org.uk

Mae’r Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig yn darparu cefnogaeth ariannol i unigolion sydd yn dymuno gwella’u sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau newydd.

Islwyn
Lôn Terfyn
Morfa Nefyn
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6AP
01758 720 132 (after 6pm)
info@wbt.org.uk
  www.rts.org.uk/wales

Mae’r Gymdeithas Deledu Brenhinol yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a dod i gysylltiad â phobl ar bob gwastad drwy’r gymuned deledu yng Nghymru.

0798 000 7841 
hywel@aim.uk.com
  www.bafta.org.uk/cymru
Mae BAFTA Cymru yn hyrwyddo rhagoriaeth yn y cyfryngau drwy wobrau, dosbarthiadau meistri, digwyddiadau a dangosiadau. Mae tâl aelodaeth blynyddol i’w dalu.
Chapter Arts Centre
Market Road
Cardiff
CF5 1QE
029 2038 98
lisa@bafta.org.uk

Mudiadau Creadigol a Diwylliannol

TY mae amrywiaeth eang o fudiadau yng Nghymru sydd yn gweithio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol. Mae llawer ohonynt yn darparu gwyboaeth am ffynonellau cyllid ac hyfforddiant sydd ar gael.

www.ccskills.org.uk

Sgiliau Creadigol A Diwylliannol yw Cyngor Sgiliau y Sector Hysbysebu,Crefftau, Etifeddiaeth Diwylliannol, Dylunio, Cerdd, Perfformio, Celfyddyd Llên a Gweledol.

1 Caspian Point
Pierhead Street
Caerdydd
CF10 4DQ

029 2044 4000
simon.dancey@ccskills.org.uk

  www.welshmusicfoundation.com

Mae Sefydliad Cerdd Cymru yn darparu gwybodaeth am y diwydiant cerdd yng Nghymru . Gan gynnal seminarau yn rheolaidd mae’r sefydliad hefyd yn cynnal cyfeirfa arlein am ddim. Ymunwch â’u gwefan i dderbyn eu e-bwletin am ddim.

33-35 West Bute Street
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5LH

029 2049 4110
enquiries@welshmusicfoundation.com

www.artswales.org.uk

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff datblygu a chyllido cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae amryw o gyllidau hyfforddi a prosiect ar gael i rai sydd yn gweithio’n llawrydd gyda chymorthdaliadau yn amrywio o £250 hyd £25,000.

Central Office
9 Stryd yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3NX

029 2037 6500
south@artswales.org.uk

www.wai.org.uk

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio er mwyn cefnogi, hyrwyddo a datblygu ymarfer proffesiynol drwy’r oll ffurfiau celfyddyd. Mae’n darparu gwybodaeth ynghylch y celfyddydau yng Nghymru ac yn cefnogi cyfleoedd rhyngwladol drwy ei rhaglenni a chynlluniau ariannu.

9 Stryd yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3NX

029 2037 6500
info@wai.org.uk 

www.bbc.co.uk/performingartsfund

Drwy ystod o gynlluniau cyllido mae Cronfa Celfyddydau Perfformio y BBC yn cynorthwyo crewyr cerddoriaeth a pherfformwyr uchelgeisiol sydd yn chwilio’u ffordd ymlaen. Ymwelwch â’r wefan am wybodaeth bellach ynghylch bwrsariaethau addysg a chyllido posibl ar gyfer cyfarpar ac offerynnau.

  www.communitymusicwales.co.uk

Mae Cerddoriaeth Cymunedol Cymru (Community Music Wales) yn cynnig hyfforddiant diwydiant cerddoriaeth a Datblygiad Proffesiynol gyda phwyslais cymunedol.

Unit 8
24 Norbury Road
Fairwater
Cardiff
CF5 3AU

029 20838060
Admin@communitymusicwales.org.uk

  www.cultural-enterprise.com

Mae Menter Diwyllianol Cymru (Cultural Enterprise Wales) yn darparu gwybodaeth arlein parthed cyfleoedd dysgu a digwyddiadau.

  www.literaturetraining.com

Mae gan Hyfforddiant Llenyddiaeth (Literature Training) wybodaeth a diweddarir yn gyson ar gyrsiau, mentora, gwasanaethau gwerthusiad beirniadol, cynadleddau a digwyddiadau, swyddi, gwaith comisiwn, swyddi preswyl, cystadleuthau, mudiadau, rhwydweithiau, darparwyr hyfforddiant, llyfrau, cylchgronau a chyllid ar gyfer datblygiad prodffesiynol.

PO BOX 23595
Edinburgh
EH6 7YX

info@literaturetraining.com

  www.tynewydd.org

Tŷ Newydd yw Canolfan Awduron Cymru ac ers 1990 y mae wedi denu awduron o bob rhan o’r byd fel tiwtoriaid ac aelodau o gyrsiau.

Llanystumdwy
Criccieth
Gwynedd
LL52 0LW

01766 522 811
post@tynewydd.org

Mudiadau Eraill

openlearn.open.ac.uk

Mae’r Brifysgol Agored yn Nghymru yn darparu cyfloedd dysgu drwy addysgu agored ac o bell. Mae gwefan y Brifysgol Agored Openlearn yn darparu mynediad am ddim i amrywiaeth o ddefnydd arlein addysgol a ddyfynnir o gyrsiau y Brifysgol Agored. Mae gostyngiad o 10% ar gyrsiau eraill i aelodau undeb.

18 Stryd Tŷ’r Tollau
Caerdydd
CF10 1AP

029 2047 1019
wales@open.ac.uk

www.learndirect.co.uk

Adnodd arlein yw learndirect lle gallwch drefnu’ch addysg o gwmpas eich bywyd eich hunan ar eich cyflymder eich hunan ac ar amser sy’n gyfleus i chi. Gallwch gael eich addysg mewn canolfan learndirect,yn eich cartref, gwaith neu ble bynnag fo gennych fynediad i’r rhyngrwyd. Mae rhai cyrsiau ar gost gostyngol neu hyd yn oed am ddim yn ôl eich amgylchiadau.

0800 101 901

 

www.careerswales.com

Mae Gyrfaoedd Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chanllaw gyrfaoedd dwyieithog, diduedd am ddim i bobl o bob oed.

0800 100 900

 

www.business-support-wales.gov.uk

Mae Cymorth Hyblyg i Fusnes yn wasanaeth a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn darparu gwybodaeth ac yn cynnal gweithdai ar sut i gychwyn, gynllunio ariannu a datblygu busnes yng Nghymru.

03000 6 03000

 

 

Lincs

Tystlythyrau

"Rydwyf wedi bod ar un cwrs CULT Cymru ac rwy’n awyddus i fynychu llawer rhagor. Y rheswm? Maent yn fychan, yn bersonol ac yn dra ymarferol. Cariad ar yr olwg gyntaf i mi!”
Andy Pearson, NUJ

"Cefais fod hyfforddiant CULT Cymru yn gynhwysfawr iawn ac wedi ei drefnu yn dda. Gofalwyd amdanom yn dda ac yr oedd y tiwtor yn wybodus iawn ac yn agos-atoch. Roedd maint y grŵp yn golygu ein bod yn cael profiad dysgu mwy personol."
Rhian Stewart, Bectu
 

“Mae gennym ddywediad yn Gymraeg – Gorau arf, arf dysg. Wedi mynychu dau weithdy, rwyf wrth fy modd cael dweud fod CULT Cymru yn ein arfogi gyda’r union arfau sydd eu hangen arnom er mwyn cyrraedd y lle y dymunwn fod yn y diwydiant.”
Mari Griffith, Bectu
 

“Roedd e-farchnata yn gwrs gwych ac yn wirioneddol yn eich helpu i edrych mewn ffyrdd gwahanol ar sut rydych yn marchnata eich busnes ar-lein.”
Chris Young, Undeb Cerddorion
 

"Cefais fod y cwrs undydd ar farchnata ac hyrwyddo” yn llawn gwybodaeth a chymorth. Roedd y tiwtor yn agos-atoch a chefnogol.”
Ruth Bradshaw, Undeb Cerddorion

"Mynychais weithdy e-marchnata CULT Cymru ac fe’i cefais yn dderbyniol dros ben gan ei fod wedi agor fy llygaid i’r dewisiadau diweddaraf ar gyfer hunan-hyrwyddo ar y rhyngrwyd, a fy ysgogi i ehangu fy mhresenoldeb ar y wê.”
Othniel Smith, WGGB

"Roedd y cwrs yn addysgiadol ac yn llawn gwybodaeth ar gyfer gweithwyr ar eu liwt eu hunain ac fe ganolbwyntiodd ar ateb, gwrando, ac ymateb i geisiadau oddi wrth yr unigolion oedd yn bresennol."
Elin Leyshon, Equity


"Roedd y gweithdy e-marchnata yn llawn gwybodaeth ac rwyf yn bendant wedi gwella fy phresenoldeb ar y wê oherwydd i mi fynychu’r cwrs. Diolch i chi CULT Cymru!"
Shelley Fairplay, Undeb Cerddorion


"Cwrs bywiog ac wedi ei gynllunio yn feddylgar yn llawn cynghrion bach gwirioneddol ddefnyddiol ar sut i werthu eich hunan."
Rebecca Lees, Equity


"Roedd y cwrs CULT Cymru yn ysogiad gwych ynghylch yr hyn dylsai gweithiwr llawrydd fod yn ei wneud i gadw’r ffôn yn canu a’r dyddiadur yn edrych yn iach, gyda’r cyfle i gyfarfod â chyd-weithwyr proffesynol a rhannu profiadau ‘am fywyd ar y talcen’.”
Graham Horder, Bectu