Digwyddiadau
Ffair Diwydiannau Creadigol 2012
Peidiwch a methu’r cyfle yma i glywed y diweddaraf o’r diwydiant, holi’r arbenigwyr a rhwydweithio.
Cynhelir y ffair ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Fawrth, 2012, ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, gyda'r lansiad ar y Nos Wener yr 2ail o Fawrth.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i wefan Ffair CULT Cymru.
.gif)
Tystlythyrau
"Mynychais weithdy e-marchnata CULT Cymru ac fe’i cefais yn ddefnyddiol dros ben gan ei fod wedi agor fy llygaid i’r dewisiadau diweddaraf ar gyfer hunan-hyrwyddo ar y rhyngrwyd, a fy ysgogi i ehangu fy mhresenoldeb ar y wê."
Othniel Smith, WGGB
"Roedd y cwrs yn addysgiadol ac yn llawn gwybodaeth ar gyfer gweithwyr ar eu liwt eu hunain ac fe ganolbwyntiodd ar ateb, gwrando ac ymateb i geisiadau oddi wrth yr unigolion a oedd yn bresennol."
Elin Leyshon, Equity
"Roedd y gweithdy e-marchnata yn llawn gwybodaeth ac yr wyf yn bendant wedi gwella fy mhresenoldeb ar y wê oherwydd i mi fynychu’r cwrs. Diolch i chi CULT Cymru!"
Shelley Fairplay, Undeb y Cerddorion
"Cwrs bywiog ac wedi ei gynllunio yn feddylgar, yn llawn cynghorion bach gwirioneddol ddefnyddiol ar sut i werthu eich hunan."
Rebecca Lees, Equity