Astudiaethau Achos

Cyflwyniad

Mae gweithwyr llawrydd sydd wedi dod yn CDUau i’w undebau a gweithwyr llawrydd sydd wedi cymryd rhan yn un o’r llawer o gyrsiau a gynhalwyd eisoes yng Nghymru wedi elwa o nifer o gynlluniau neu gyrsiau a fodolai eisoes ac y mae rhai eisoes wedi mentro gyda’u prosiectau eu hunain. Dyma rai o’r astudiaethau achos diweddaraf.

Rhoddir sylw i ragor ar safle CULT Cymru ac mewn e-lythyrau yn y misoedd sydd i ddod.


Mike SmithMike Smith

Creu rhwydwaith llawrydd o newyddiadurwyr

O’m hyfforddiant fel CDU ac hefyd o gyflenwi hyfforddiant led-led yr undebau gyda CULT Cymru daeth yn eglur i mi ar unwaith mae’r hyn yr oedd ei angen ar bawb oedd rhyw ddull o rwydweithio, cysylltu ac efallai hyd yn oed rannu sgiliau a chyfleoedd gwaith.

Mae’r NUJ yn undeb trefnus iawn gyda llawer o brofiad ac adran aelodaeth sydd wedi ei threfnu yn dda. Fodd bynnag, pan ddechreuais geisio gysylltu â’n aelodau llawrydd ein hunain ar draws Cymru, darganfyddais bod llawer wedi gadael y diwydiant , eraill wedi symud o Gymru, tra bod eraill,wel, na allwn gael bw na ba yn ateb oddi wrthynt.

Felly, bellach rwyf wedi llunio fy rhestr e-bost fy hunan o holl weithwyr llawrydd yr NUJ yng Nghymru ac wedi ei ddarparu i’n prif swyddfa i weld sut y mae’n cymharu â’u cofnodion hwy. Bellach, rwy’n defnyddio’r rhwydwaith hon i roi gwybod i weithwyr llawrydd nid yn unig am hygyrchedd Hyfforddiant CULT Cymru ac Hyfforddiant NUJ yng Nghymru ond hefyd dim ond er mwyn ceisio cadw pobl mewn cysylltiad.

Nid yn unig bod gweithwyr llawrydd yn dioddef o arwahanrwydd yn y gweithle, y maent hefyd yn dioddef arwahanrwydd oddi wrth newyddiadurwyr eraill, felly bydd y rhwydwaith hon, gobeithio, yn gymdeithasol yn ogystal ac yn broffesiynol.

Eisoes gellais roi cyfle gwaith i gyfeiriad cyd-weithwyr NUJ- ac undebau eraill yn ogystal- ac hefyd gysylltu â phobl eraill sydd wedi cael hyfforddiant CULT Cymru ac wedi cytuno i fod yn yr e-rwydwaith o gyfleoedd yr wyf wedi taro ar eu traws a allai fod o ddiddordeb iddynt.

Yn y pen draw, rwyf eisiau gweithio gyda’m cydweithwyr CDU ar draws y pum undeb i greu e-rwydwaith o’r holl weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a sail hwn, gobeithiaf, fydd y nifer cynyddol o rai llawrydd sydd yn codi syniadau ynghylch pa hyfforddiant neu ddigwyddiadau y carent ei gael nesaf.

Oh ia, diolch i CULT Cymru, rwyf newydd orffen fy nghwrs preswyl Cymraeg dwys gyda bwrsari oddi wrth Skillset Cymru…. Eisiau gwbod sut i gael un…… e-bostiwch fi!

mike@cultcymru.org


Christina PolydorouChristina Polydorou

Sut i dorri ‘cut’

Ar ddiwedd Gorffennaf bum yn ddigon ffodus i gymryd rhan yn The Actors’ Cut a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd hwn yn gwrs anhygoel gyda’r bwriad o roi actorion ar y sgrîn fawr mewn diffiniad uchel. ‘Does dim ots pa mor dda yw’r cwrs, fy mhrofiad i yw na all ysgolion drama a phrifysgolion yn eu byw a chynnig y profiad o fod ar set ffilm ac actio o flaen y camera tra bo criw llawn oddi amgylch. I ddechrau, byddai’n llawer rhy gostus.

Dyna pam fo hyfforddiant wedi ei ddarparu gan CULT Cymru ac wedi ei drefnu gan ein undebau ein hunain, gan ddefnyddio’r sgiliau a’r profiad y mae ein aelodau yn eu meddu mor bwysig i’n dyfodol – ac i’n diwydiant. Mae ‘The Actors’ Cut’ – fe’i gelwir hynny am ei fod yn cynnig cyfle i’r actor i ail-saethu golygfa - 'yn cynnig lle ble darparir criw proffesiynol i siarad am eu rhan hwy ac hefyd i ganiatau i’r actor roi cynnig ar wneud eu gwaith hwy.

Ar yr wythnos yr oeddwn i yn bresennol, yr oeddwn yn un o 80 ac y mae yna gyfarwyddwr gwahanol bob dydd. Mae pawb yn derbyn golygfa i’w dysgu ychydig ddyddiau ynghynt cyn eu bod yn cael eu ffilmio ac fe’i ad-ddangosir ar sgrîn maint sinema. Roedd y cwrs hwn yn darparu cyfle nid yn unig i ddod i wybod sut i ymddwyn a perfformio ar set ffilm ond hefyd i gyfarfod actorion eraill, sydd bob amser yn angenrheidiol. Byddwn yn cymeradwyo’r cwrs hwn i unrhyw un nad oes ganddynt brofiad ffilm na set.


Othniel SmithOthniel Smith

Fy ngorchwyl gyntaf fel Cynghorydd Dysgu Undeb ar ran y WGGB oedd creu rhestr bostio electronig a fyddai’n gweithio o aelodau’r Urdd a weithiai yng Nghymru. Llwyddais i wneud hyn gyda chymorth swyddfa’r Urdd yn Llundain ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Cymreig.

Mae awduron yn dueddol o weithio ar eu pennau eu hunain ac yn aml, mae’n anodd iddynt deimlo fel petaent yn aelodau o gymuned. Ymhellach, fy mhrofiad i yw bod cyfleoedd datblygu cyflogaeth a gyrfa y gallasant elwa ohonynt yn aml heb gael eu hysbysebu yn ddigonol. Yn y lle cyntaf felly, teimlaf fod fy rhan i fel CDU yn ymwneud â darparu i aelodau’r Urdd yng Nghymru y wybodaeth y mae ei angen arnynt er mwyn macsimeiddio eu heffeithiolrwydd fel gweithwyr ar eu liwt eu hunain.

Felly mae fy swyddogaeth hyd yn hyn wedi ymhel i raddau helaeth â cheisio adeiladu ymwybyddiaeth am CULT Cymru drwy e-bost. Hefyd edrychaf arni fel fy nghyfrifoldeb i weithredu fel man cyswllt er mwyn i aelodau allu cyfleu eu anghenion hyfforddi i CULT Cymru.

Mae fy hyfforddiant CDU wedi cynorthwyo i’m trwytho gyda hyder i ymdopi ag ymholiadau ynghylch hyfforddi oddi wrth aelodau, boed hynny yn syml yn golygu eu cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth mwy awdurdodedig neu drafod y dewsiadau sydd ar gael iddynt wyneb yn wyneb.

Tystlythyrau

"Rydwyf wedi bod ar un cwrs CULT Cymru ac rwy’n awyddus i fynychu llawer rhagor. Y rheswm? Maent yn fychan, yn bersonol ac yn dra ymarferol. Cariad ar yr olwg gyntaf i mi!”
Andy Pearson, NUJ

"Cefais fod hyfforddiant CULT Cymru yn gynhwysfawr iawn ac wedi ei drefnu yn dda. Gofalwyd amdanom yn dda ac yr oedd y tiwtor yn wybodus iawn ac yn agos-atoch. Roedd maint y grŵp yn golygu ein bod yn cael profiad dysgu mwy personol."
Rhian Stewart, Bectu
 

“Mae gennym ddywediad yn Gymraeg – Gorau arf, arf dysg. Wedi mynychu dau weithdy, rwyf wrth fy modd cael dweud fod CULT Cymru yn ein arfogi gyda’r union arfau sydd eu hangen arnom er mwyn cyrraedd y lle y dymunwn fod yn y diwydiant.”
Mari Griffith, Bectu
 

“Roedd e-farchnata yn gwrs gwych ac yn wirioneddol yn eich helpu i edrych mewn ffyrdd gwahanol ar sut rydych yn marchnata eich busnes ar-lein.”
Chris Young, Undeb Cerddorion
 

"Cefais fod y cwrs undydd ar farchnata ac hyrwyddo” yn llawn gwybodaeth a chymorth. Roedd y tiwtor yn agos-atoch a chefnogol.”
Ruth Bradshaw, Undeb Cerddorion

"Mynychais weithdy e-marchnata CULT Cymru ac fe’i cefais yn dderbyniol dros ben gan ei fod wedi agor fy llygaid i’r dewisiadau diweddaraf ar gyfer hunan-hyrwyddo ar y rhyngrwyd, a fy ysgogi i ehangu fy mhresenoldeb ar y wê.”
Othniel Smith, WGGB

"Roedd y cwrs yn addysgiadol ac yn llawn gwybodaeth ar gyfer gweithwyr ar eu liwt eu hunain ac fe ganolbwyntiodd ar ateb, gwrando, ac ymateb i geisiadau oddi wrth yr unigolion oedd yn bresennol."
Elin Leyshon, Equity


"Roedd y gweithdy e-marchnata yn llawn gwybodaeth ac rwyf yn bendant wedi gwella fy phresenoldeb ar y wê oherwydd i mi fynychu’r cwrs. Diolch i chi CULT Cymru!"
Shelley Fairplay, Undeb Cerddorion


"Cwrs bywiog ac wedi ei gynllunio yn feddylgar yn llawn cynghrion bach gwirioneddol ddefnyddiol ar sut i werthu eich hunan."
Rebecca Lees, Equity


"Roedd y cwrs CULT Cymru yn ysogiad gwych ynghylch yr hyn dylsai gweithiwr llawrydd fod yn ei wneud i gadw’r ffôn yn canu a’r dyddiadur yn edrych yn iach, gyda’r cyfle i gyfarfod â chyd-weithwyr proffesynol a rhannu profiadau ‘am fywyd ar y talcen’.”
Graham Horder, Bectu