Amdanon niChris

Rwyf wrth fy modd ar ran Ffederasiwn Undebau Adloniant (Cymru) i allu cyflwyno gwaith yr ydym yn ei ystyried yn brosiect arloesol bwysig – CULT Cymru.

Mae anghenion hyfforddiant gweithwyr llawrydd yn hollol wahanol i rai y sawl a gyflogir yn llawn-amser neu hyd yn oed yn rhan-amser yn y sector breifat neu gyhoeddus.

Dyma neges y bu FfUA yn ceisio ei chyfleu i TUC Cymru a Llywodraeth y Cynulliad am nifer o’r blynyddoedd diwethaf. O’r diwedd yn 2008 llwyddasom i dorri trwodd pan fu cais ar y cyd at Gronfa Dysgu Undeb Cymru yn llwyddiannus, ac esgor ar CULT Cymru.

Mae’r gweithiwr llawrydd yn greadur go arbennig.

Yn y bôn, mae yn fusnes bach eu hunan ac felly angen gymaint o help arbenigol ag unrhyw Fusnes Bychan neu Gymhedrol arall. Ond wrth gwrs, yn wahanol i unrhyw FBG arferol nid yw’r gweithiwr llawrydd ynghlwm wrth unrhyw weithfan am gyfnod estynedig, mae’n gweithio’n ysbeidiol, tuedda’r tâl fod yn isel ac nid oes mynediad rhwydd at wybodaeth a chymorth.

Bwriada CULT Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i newid hyn oll er gwell.

Rydym wedi holi aelodau’r pum undeb yn fanwl ac y mae llawer o fylchau sgiliau sydd yn gyffredin rhyngddynt. Ymdrechwn i’r eithaf i bontio’r rhai hynny, ac hefyd i hyfforddi gymaint ag sy’n bosibl o Gynghorwyr Dysgu Undeb ar draws y diwydiant fel y gallant gyfeirio eraill i’r cyfeiriad iawn. Rydym yn cydnabod hefyd nad oes gan amryw o rai sydd yn gweithio'n llawrydd yr amser i ymrwymo i fynychu cyrsiau a dyna paham rydym yn datblygu cyflwyniadau arlein yn ogystal ac mewn ystafell ddosbarth.

Bydd CULT Cymru yn darparu cynorthwy i lawryddion drwy Gymru ben baladr ac ar draws y diwydiant theatr a darlledu.

Y mae’n gyfleuster gwerthfawr ac unigryw. Gobeithiwn y bydd o gymroth ymarferol i chi.

Chris Ryde
Trefnydd dros Gymru a De-Orllewin Lloegr, EQUITY

Cadeirydd, CULT Cymru.

Learning Needs Analysis

Tystlythyrau

"Rydwyf wedi bod ar un cwrs CULT Cymru ac rwy’n awyddus i fynychu llawer rhagor. Y rheswm? Maent yn fychan, yn bersonol ac yn dra ymarferol. Cariad ar yr olwg gyntaf i mi!”

Andy Pearson, NUJ

 

Cysylltwch â ni

sian@cultcymru.org neu beth@cultcymru.org

Ffôn: 029 2055 4601